Mae Darcey, sydd â threftadaeth Jamaicaidd trwy ei thad, yn ymgyrchydd dros hawliau pobl ddu, ac yn hyrwyddo amrywiaeth yma yng Nghymru ochr yn ochr â'i gwaith pasiant. Gyda dathliadau'r Nadolig yn prysur agosáu, mae Miss Wales yn cefnogi ymgyrch Gwasanaeth Gwaed Cymru, #thebestgift. Mae'r ymgyrch yn annog cymunedau ar draws Cymru i gefnogi stociau gwaed dros gyfnod y Gaeaf drwy godi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed, platennau neu fêr esgyrn, a'r gwahaniaeth y mae'r rhoddion gwerthfawr hynny'n ei wneud i gleifion mewn angen fel Darcey.
Mae'r Gwasanaeth yn darparu cynnyrch gwaed a gwaed sy'n achub bywydau i 19 o ysbytai ar draws Cymru ac i bedair awyren Ambiwlans Awyr Cymru i'w defnyddio mewn argyfwng. Mae’r Gwasanaeth yn rheoli Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru hefyd, sy'n recriwtio ac yn cefnogi gwirfoddolwyr mêr esgyrn sydd yn cael eu cydweddu â chleifion canser ar draws y byd i roi rhodd mêr esgyrn a allai achub bywydau.
Ar hyn o bryd, nid yw tri o bob deg claf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu â nhw, ac mae'r risg o beidio â dod o hyd i roddwr yn cynyddu i saith o bob deg ar gyfer cleifion o dreftadaeth lleiafrifoedd ethnig, oherwydd diffyg cynrychiolaeth ar gofrestri rhoddwyr byd-eang.
