Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cysylltwch â ni..

Dathlu dwy flynedd o serowyliadwraeth COVID-19.

Ynghylch y prosiect

Rydym wedi olrhain cyfraddau heintio a brechu COVID-19 yng Nghymru am y ddwy flynedd ddiwethaf trwy wyliadwriaeth serolegol. Mae gwyliadwriaeth serolegol (a elwir yn serowyliadwraeth) yn cynnwys mesur gwrthgyrff yn y gwaed i amcangyfrif imiwnedd poblogaeth. Sefydlwyd y prosiect yn wreiddiol yn ystod y don gyntaf o COVID-19 yn 2020 ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Rydym yn darparu samplau a gwybodaeth ddemograffig i'r cynllun. Ar hyn o bryd rydym yn prosesu 2000 o samplau bob mis ar gyfartaledd ac rydym wedi prosesu dros 66,000 o samplau.

Beth yw nod prosiect serosurveillance COVID-19?

Nid oedd monitro COVID-19 yn olrhain heintiau ysgafn neu asymptomatig ar ddechrau'r pandemig. Roedd angen i ni ganfod ffordd o gasglu gwybodaeth am ledaeniad COVID-19 heb ganolbwyntio ar achosion difrifol yn unig.

Trafodwyd defnyddio samplau rhoddwyr gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i olrhain imiwnedd i’r feirws COVID-19 ym mhoblogaeth Cymru. Gallwn wneud hyn drwy fesur lefelau gwrthgyrff yn y gwaed.

Wedi i ni gydnabod bod angen cefnogaeth brofi, cyflwynwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynnal profion gwrthgyrff oedd eu hangen ar gyfer y serowyliadwraeth.

Rydym yn defnyddio samplau a fyddai fel arall yn cael eu gwastraffu ar gyfer y prosiect hwn. Daeth samplau gan roddwyr ar draws y wlad, a oedd yn helpu i amcangyfrif lefelau imiwnedd mewn gwahanol rannau o Gymru.

Erbyn diwedd 2020, roeddem wedi sefydlu ffordd wyddonol gadarn o amcangyfrif imiwnedd o'r samplau.

Ychwanegwyd prawf arall yn ddiweddarach yn 2021 i fesur gwrthgyrff gan frechlynnau, gan ganiatáu i ni olrhain imiwnedd a gweld sut mae brechlynnau'n amddiffyn y boblogaeth.

Gallwn hefyd gysylltu rhai o'r samplau gwaed a brofwyd gyda’r un rhoddwyr sy’n rhoi’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn caniatáu i ni weld newidiadau mewn imiwnedd dros amser ac amcangyfrif pa mor hir y parhaodd yr imiwnedd.

Mae ein prosiect yn darparu amcangyfrifon o fis i fis o nifer y bobl sydd â gwrthgyrff i'r feirws COVID-19. O hyn, gall cyrff iechyd a Llywodraeth Cymru benderfynu ar gynlluniau brechu a mesurau diogelwch.

Felly, ble rydyn ni wedi cyrraedd heddiw?

Mae'r mwyafrif helaeth o'n rhoddwyr gwaed wedi eu brechu. Mae gan 99.6% o roddwyr sydd wedi cael eu profi yn y cynllun hwn wrthgyrff gan frechlynnau. Datgelodd y data a gasglwyd drwy'r prosiect mai'r hynna ydych chi, y lleiaf tebygol ydych chi o gael gwrthgyrff. Y darlun sy'n dod i'r amlwg yw y gallai Llywodraeth Cymru hyrwyddo brechiadau atgyfnerthu i bobl hŷn y gaeaf hwn. Mae gan bobl iau hefyd gyfraddau uchel o wrthgyrff gan frechlynnau ond maen nhw hefyd yn profi symiau uwch o'r haint.

Mae ein poblogaeth o roddwyr yn tueddu i fod yn iach ac yn heini, ond gallwn ddod i'r casgliad bod yr un peth yn digwydd ar draws y boblogaeth gyffredinol.

Beth yw'r cynlluniau am weddill y flwyddyn?

Rydym yn parhau gyda'r cynllun hwn ar gyfer gweddill 2022 o leiaf. Rydym yn gwybod bod gan rai pobl wrthgyrff am gyfnod hir, tra bod eraill yn cynhyrchu symiau is o wrthgyrff am gyfnodau byrrach.

Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i wneud penderfyniadau am amseru’r brechlyn atgyfnerthu. Felly, dylai rhoddwyr ymfalchïo o wybod y gall eu rhoddion helpu i lywio'r camau gorau ar gyfer poblogaeth Cymru.