Hemocromatosis Genetig (HG) yw'r cyflwr etifeddol mwyaf cyffredin yng Nghymru. Gyda’r anhwylder hwn, mae haearn yn cronni yn y corff ac os na chaiff ei drin, mae’n gallu arwain at greu niwed i'r organau, poen yn y cymalau a diabetes.
Triniaeth ar gyfer Hemocromatosis
Mae’r driniaeth yn syml ac yn golygu tynnu tua 500ml o waed yn rheolaidd (sydd yn cael ei alw’n driniaeth tynnu gwaed). Mae hyn yn cael ei rannu’n ddau gam gwahanol:
- Cyfnod cychwynnol
Pan fydd lefelau haearn yn uchel iawn, fel arfer ar ôl cael diagnosis, efallai y bydd angen tynnu gwaed mor aml â phob wythnos. - Cyfnod cynnal a chadw
Unwaith y bydd y lefelau haearn wedi gostwng i derfynau arferol, bydd triniaeth yn cael ei rhoi yn llai aml. Bydd eich tîm ysbyty yn penderfynu pa mor hir mae'n rhaid i chi aros rhwng triniaethau tynnu gwaed.
Dod yn rhoddwr gwaed fel claf HG
Mae llawer o bobl sydd â HG yn gallu rhoi gwaed gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhoi gwaed. Efallai y bydd unigolion sydd â HG sydd erioed wedi gorfod cael triniaeth tynnu gwaed yn gymwys i roi gwaed hefyd.
Er mwyn rhoi gwaed, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol bob tro y byddwch yn rhoi gwaed:
- Meini prawf cymhwysedd rhoddwyr gwaed y DU* (cysylltwch â ni. am fwy).
- Dim yn dioddef cymhlethdodau o ganlyniad i HG, fel sirosis yr afu, cardiomyopathi, arhythmia cardiaidd neu ddiabetes mellitus sy'n ddibynnol ar inswlin.
- Yn derbyn therapi celadu.
- Heb gael adwaith andwyol i driniaeth tynnu gwaed yn y gorffennol.
*Sylwer, os ydych yn glaf HG a’ch bod chi rhwng 66 a 72 oed, bydd cael triniaeth tynnu gwaed yn yr ysbyty yn cyfrif fel rhoi gwaed hefyd.