Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cysylltwch â ni..

Facebook yn lansio adran newydd o fewn yr ap i gynyddu rhoddion gwaed yng Nghymru

Mae Facebook wedi cyhoeddi partneriaeth gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG a Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Gogledd Iwerddon i helpu i ychwanegu at y biblinell rhoi gwaed, gyda ‘gwaed newydd’ mae mawr ei angen.

Bydd nodwedd rhoi gwaed newydd Facebook, sydd yn lansio heddiw, ac sydd eisoes wedi helpu i recriwtio mwy na 70 miliwn o roddwyr gwaed ar draws y byd, yn caniatáu i’r rheiny rhwng 18 a 65 oed i gofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook am roi gwaed, i gael gwybod am gyfleoedd i roi gwaed mewn canolfannau rhoi gwaed lleol, ac i wahodd ffrindiau i roi gwaed.

Mae Facebook yn hyrwyddo’r nodwedd drwy hysbysu pobl drwy eu cyflenwadau newyddion, neu gall pobl ddod o hyd iddo drwy chwilio am “blood donations” ar Facebook.

Bob wythnos, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru angen tua 1,675 o roddion i ateb anghenion cleifion ar draws Cymru, gyda phob rhodd o bosibl yn helpu i achub hyd at dri bywyd.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o roddwyr dros 45 oed, a dyna pam mae Gwasanaeth Gwaed Cymru, ochr yn ochr â’r gwasanaethau gwaed yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn ceisio recriwtio ‘gwaed newydd’ drwy nodwedd rhoi gwaed Facebook, i helpu i sicrhau’r genhedlaeth nesaf o roddwyr hirdymor a diogelu’r cyflenwad gwaed ar gyfer y dyfodol.

Wrth sôn am hyn dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru

“Gyda’r pandemig COVID-19 yn cyflwyno heriau newydd i ni, rydym yn awyddus i weld y gwahaniaeth y bydd y cydweithio hwn yn ei wneud i’r genhedlaeth nesaf o roddwyr gwaed yng Nghymru.”

Mae rhoi gwaed yn achub bywydau di-rif ac erbyn hyn, mae’r GIG a Facebook yn ei gwneud yn haws nag erioed i bobl roi gwaed a gwneud gwahaniaeth yn defnyddio nodwedd rhoi gwaed Facebook.

Steve Hatch, Is-lywydd Facebook Gogledd Ewrop:

Bob wythnos, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru angen tua 1,675 o roddion i ateb anghenion cleifion ar draws Cymru, gyda phob rhodd o bosibl yn helpu i achub hyd at dri bywyd.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o roddwyr dros 45 oed, a dyna pam mae Gwasanaeth Gwaed Cymru, ochr yn ochr â’r gwasanaethau gwaed yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn ceisio recriwtio ‘gwaed newydd’ drwy nodwedd rhoi gwaed Facebook, i helpu i sicrhau’r genhedlaeth nesaf o roddwyr hirdymor a diogelu’r cyflenwad gwaed ar gyfer y dyfodol.

Wrth sôn am hyn dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru

“Gyda’r pandemig COVID-19 yn cyflwyno heriau newydd i ni, rydym yn awyddus i weld y gwahaniaeth y bydd y cydweithio hwn yn ei wneud i’r genhedlaeth nesaf o roddwyr gwaed yng Nghymru.”

Bob dydd, rydym yn dibynnu ar haelioni ein rhoddwyr i ddarparu rhoddion hanfodol o waed, platennau, plasma a mêr esgyrn i fodloni gofynion cyflenwi'r ugain o ysbytai rydym yn eu gwasanaethu.

“Gyda’r pandemig COVID-19 yn cyflwyno heriau newydd i ni, rydym yn awyddus i weld y gwahaniaeth y bydd y cydweithio hwn yn ei wneud i’r genhedlaeth nesaf o roddwyr gwaed yng Nghymru.”

Ychwanegodd Steve Hatch, Is-lywydd Facebook Gogledd Ewrop:

“Mae rhoi gwaed yn achub bywydau di-rif ac erbyn hyn, mae’r GIG a Facebook yn ei gwneud yn haws nag erioed i bobl roi gwaed a gwneud gwahaniaeth yn defnyddio nodwedd rhoi gwaed Facebook.

“O fewn ychydig o gliciau, gallwch gofrestru a chael gwybod pan fydd eich canolfan rhoddwyr lleol angen mwy o roddwyr i gofrestru, yn ogystal ag annog eraill i wneud yr un peth. Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan, felly os nad ydych chi erioed wedi rhoi gwaed o’r blaen, neu os ydy rhoi gwaed yn dal i fod ar eich rhestr o bethau i’w gwneud, beth am gofrestru a helpu i achub bywyd.”

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Gwnewch apwyntiad heddiw